Hafan

Mae ein Llyfryn Nadolig nawr ar gael. Gofynnwch i’ch gwerthwr am gopi neu lawrlwythwch gopi ar-lein.

Mae Bwydydd Castell Howell Cyf yn cynnal ei Arddangosfa Arlwyo Nadolig blynyddol yn ein prif swyddfa yn Cross Hands ar ddydd Mawrth 22ain a dydd Mercher 23ain Medi 2009. Fe fydd ar agor rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod.

Galwch heibio i weld ein llyfryn Nadolig unigryw a blasu’r bwyd sydd ynddo. Am fwy o fanylion, cysylltwch â’ch gwerthwr.

Bydd Cynhadledd Prif Gogyddion Cymru yn cymryd lle eleni mewn partneriaeth â Sioe Arlwyo Nadolig Bwydydd Castell Howell. Trwy gydol y ddau ddiwrnod, bydd yna gyfle i rannu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda’ch cydweithwyr, cwrdd â chyflenwyr bwyd a darganfod mwy am raglen hyfforddiant Tair A yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am hyn, cliciwch ar y logo. Mae amserlen y Gynhadledd nawr ar gael ar y wefan.

Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae Castell Howell wedi hen ennill ei blwyf fel un o gyfanwerthwyr bwyd annibynnol blaenllaw’r wlad.

Gan wasanaethu dros 4000 o gwsmeriaid, ar draws ystod o fudiadau, gan gynnwys ysbytai, gwestai, bwytai, tafarnau, caffis, ysgolion a sefydliadau hamdden, rydyn ni’n darparu siop-un-stop ar gyfer arlwywyr.

Gan gyfuno cyfleuster warws a Thalu a Chludo cyfanwerthol, rydyn ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid sy’n seiliedig ar ddibynadwyedd rhagorol, hyblygrwydd, dewis a gofal personol. Mae ehangu’r busnes yn raddol i ardaloedd Dwyreiniol a Gogleddol y wlad yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaeth unigryw i gynulleidfa ehangach.

Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Brian Jones, yn frwd dros roi Cymru ar y map bwyd ac mae’n ymfalchïo mewn dod o hyd i gynhyrchion brodorol a’u hyrwyddo, gan gynnig ystod eang o fwydydd Cymreig megis cig eidion Celtic Pride.

©2009 - Castell Howell Foods Ltd